Byddwch yn batrymau, yn esiamplau yn y gwledydd, lleoedd, ynysoedd a'r cenhedloedd oll, i ba le bynnag y deloch; fel y byddo eich ymarweddiad a'ch bywyd yn bregeth ymhlith pobl o bob math, ac yn llefaru wrthynt. Felly y derfydd i chwi deithio drwy'r byd yn siriol, gan ymateb i'r hyn sydd o Dduw ym mhob dyn.
George Fox, 1656 .

Croeso i wefan y 'Crynwyr yng Nghymru'
* Rydym eisiau i chi gael y wybodaeth sy’n eich helpu chi i ddeall pwy a beth yw’r Crynwyr, a’r Crynwyr yng Nghymru yn benodol.
* Rydym eisiau i chi wybod bod croeso i chi ddod i gyfarfod Crynwyr
* Rydym eisiau eich helpu i ddod o hyd i’r cyfarfod Crynwyr agosaf atoch chi Os ydych eisoes yn mynychu cyfarfod Crynwyr gallwn ddarparu:
* Cofnodion a deunydd ategol ar gyfer amryw gyfarfodydd
* Hysbysiadau o ddigwyddiadau lleol sydd ar ddod
* Adnoddau i’ch cyfarfod chi yn Gymraeg a Saesneg [/size]
Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei datblygu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gweinyddydd Cyfarfod y Cyfeillion yng Nghymru
(01970) 832055
Mae llawer o’r bobl sy’n mynychu cyfarfodydd y Crynwyr yng Nghymru yn medru’r Gymraeg neu’n dysgu’r Gymraeg ac mae defnyddio a chadw ein hiaith yn elfen bwysig ac uchel ei pharch o bwy ydym ac o’n haddoli.
|